Dathlu y cyfraniad mae pobl hŷn yn ei wneud i gymdeithas Full of Life

English |

Mae Llawn Bywyd yn dathlu cyfleoedd, llwyddiannau a dyheadau pobl hŷn a'u cyfraniad i'n cymdeithas a'n heconomi.

Gyda'n gilydd, mae angen i ni ddechrau newid ein hagwedd a'n hymddygiad at 'bobl hŷn', ynghyd â'n barn am heneiddio ac am rolau pobl hŷn, er mwyn creu darlun mwy cadarnhaol o heneiddio.

Diwrnod Pobl Hŷn y DU 2009

Cynhelir Diwrnod Pobl Hŷn y DU ddydd Iau 1 Hydref 2009 er mwyn cyd-daro â Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn. Drwy ddod â phobl o bob oed at ei gilydd, dyma'n cyfle i ddechrau mynd i'r afael â hen stereoteipiau ynghylch heneiddio.

Dan y teitl 'Llawn Bywyd', caiff digwyddiadau eu cynnal mewn cymunedau lleol ym mhob cwr o'r DU o gwmpas y dyddiad hwn, yn ogystal ag Arddangosfa ffotograffiaeth 'Age, Snapped'.

Cael gwybod mwy am y diwrnod

Dod o hyd i ddigwyddiad yn eich ardal chi

Cael gwybod mwy am arddangosfa 'Age, Snapped'


Additional links